{"id":2222,"date":"2020-12-15T15:15:43","date_gmt":"2020-12-15T15:15:43","guid":{"rendered":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/?p=2222"},"modified":"2022-02-19T15:46:50","modified_gmt":"2022-02-19T15:46:50","slug":"welsh-government-energy-statement","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/welsh-government-energy-statement\/","title":{"rendered":"Datganiad Ynni Llywodraeth Cymru"},"content":{"rendered":"<p class=\"p1\"><br \/>\n<\/p>\n<h3>Y llynedd, ni oedd y Senedd genedlaethol gyntaf yn y byd a bleidleisiodd dros ddatgan argyfwng hinsawdd, gan sbarduno ton o weithredu.<\/h3>\n<p>Rydym wedi arwain y trawsnewid o\u2019n gorffennol a oedd yn seiliedig ar ddefnyddio tanwydd ffosil drwy fuddsoddi mewn technolegau a rhaglenni gwyrdd i ysgogi gweithredu ar draws amrywiaeth o sectorau.<\/p>\n<p>Y flwyddyn nesaf, byddwn yn deddfu ar gyfer gostyngiad o 95% o leiaf mewn allyriadau nwyon t\u0177 gwydr erbyn 2050 yn erbyn llinell sylfaen 1990, ac yn disgwyl cyngor annibynnol, sydd i fod i gael ei dderbyn yn ddiweddarach y mis hwn, i weld a allwn fynd ymhellach fyth.<\/p>\n<p>Felly yn y cyd-destun hwn, yn gyffredinol, croesawn gyhoeddiad hir-ddisgwyliedig Llwyodraeth y DU ddoe o\u2019r Papur Gwyn ar Ynni, sy\u2019n cychwyn dod i\u2019r afael ag heriau enfawr y DU i sicrhau sero net erbyn 2050.\u00a0 Croesawn y gydnabyddiaeth o\u2019r angen am system ynni gysylltiedig, ddoethach a mwy hyblyg, yr hyn a sefydlwyd gennym yn\u00a0<em>Ffyniant i bawb: Cymru carbon isel Cymru\u00a0<\/em>yn 2019.\u00a0 Fodd bynnag, os ydym am gyflawni dyfodol tecach a mwy cyfartal, mae rhaid i ni fod yn rhan o\u2019r gwaith o ddatblygu\u2019r meddylfryd ar y meysydd newydd ac arloesol hyn \u2013 mae gennym lawer i gyfrannu o\u2019r gwaith yr ydym yn ei wneud yn barod yng Nghymru. Gall ein cyfraniad ddod \u00e2\u2019n ddealltwriaeth o arloesedd a sicrhau bod diddordebau Cymru a barn rhanddeiliaid yn cael y sylw priodol, felly\u2019n sicrhau bod ein polis\u00efau\u2019n atgyfnerthu ei gilydd ac felly\u2019n cael yr effaith fwyaf posibl.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd rydym yn ymateb i bandemig y coronafeirws ond rydym wedi amlinellu ein cynlluniau ar gyfer ailadeiladu ein heconomi yn rhagweithiol. Wrth inni ddatblygu\u2019r cynlluniau hyn dros yr haf, roedd cefnogaeth gref oddi wrth y cyhoedd ar gyfer adferiad gwyrdd, sy\u2019n cyflawni ein huchelgeisiau sero net.<\/p>\n<p>Mae ein system ynni yn hanfodol i bron pob rhan o fywyd Cymru. Bydd trawsnewid y system hon i system garbon isel fwy lleol, hyblyg a chlyfrach yn rhan hanfodol o sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.<\/p>\n<p>Yr ydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy. Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru cyhoeddais adroddiad\u00a0<em>Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2019<\/em>, a oedd yn dangos bod dros hanner anghenion trydan Cymru bellach yn cael eu diwallu drwy ynni adnewyddadwy. Rydym yn adeiladu ar y momentwm hwn yng Nghymru i sbarduno rhagor o newid. Er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>Yr ydym wedi sefydlu amgylchedd galluogi i gyflawni yn erbyn ein huchelgeisiau carbon isel, er mwyn hwyluso datblygiadau ynni ar y tir ac ar y m\u00f4r yn rhagweithiol. Mae\u00a0<em>Cymru\u2019r Dyfodol<\/em>\u00a0yn nodi ein strategaeth ofodol genedlaethol, a bydd yn sbarduno ffocws datblygiadau adnewyddadwy ar y tir dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu ei allu i ystyried trwyddedu morol ar gyfer technolegau adnewyddadwy morol yn nyfroedd Cymru.<\/li>\n<li>Mae dros 70% o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi elwa o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a\u2019r rhaglen gyllid Cymru gysylltiedig.<strong>\u00a0<\/strong>Er gwaethaf heriau COVID-19, mae\u2019r gwasanaeth ar y trywydd iawn i ymrwymo dros \u00a315m i gyflawni prosiectau yn 2020-21. Rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth yn y dyfodol o 2022 i 2026.<\/li>\n<li>Yr ydym wedi galluogi buddsoddiad o \u00a327m i ysgogi\u2019r sector cyhoeddus a chymunedau i fwrw ymlaen \u00e2 phrosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Mae hyn wedi galluogi 26MW o gapasiti ynni adnewyddadwy, digon i bweru 8,163 o gartrefi. Mae hyn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gyflawni yn erbyn ein polisi ar berchnogaeth leol.<\/li>\n<li>Yr ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol drwy weithio gyda rhanbarthau i gynllunio ar gyfer eu hanghenion ynni yn y dyfodol, gan ddeall y newidiadau a ddaw yn sgil cerbydau allyriadau isel a gwres adnewyddadwy mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Mae\u2019r rhanddeiliaid allweddol yn y sector cyhoeddus a\u2019r sector preifat sy\u2019n gallu gyrru atebion lleol arloesol ymlaen wedi helpu i nodi maint y newid sydd ei angen ym mhob un o bedwar rhanbarth Cymru. Mae\u2019r strategaethau ynni rhanbarthol newydd, a\u2019r partneriaethau sy\u2019n sail iddynt, yn cynnig y potensial i gyflawni newid bwriadol a chydgysylltiedig, er mwyn gwireddu Cymru carbon isel fwy ffyniannus ein nodau llesiant.<\/li>\n<li>Yn sail i hyn i gyd mae\u2019r angen i fabwysiadu dull bwriadol o ddylunio ac adeiladu grid ar y cyflymder sy\u2019n ofynnol gan yr argyfwng hinsawdd. Bydd cost grid newydd yn cael ei dalu drwy filiau cwsmeriaid ynni. Rhaid i ni sicrhau bod penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn cael eu gwneud mewn modd sy\u2019n sicrhau trosglwyddiad cyfiawn. Yr ydym yn gweithio gydag Ofgem, y Grid Cenedlaethol, a\u2019r tri gweithredwr rhwydweithiau ardal yng Nghymru, sydd i gyd yn mynd ati\u2019n rhagweithiol i ddatblygu cynlluniau i ddiwallu\u2019r galw ar eu rhwydweithiau yn y dyfodol. Mae prosiect Sero-Net De Cymru y National Grid yn enghraifft o\u2019r ffordd y mae perchnogion y rhwydwaith yn bwrw ymlaen \u00e2\u2019r mater hwn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yr ydym yn falch o\u2019n hagwedd ragweithiol at ganfod y cyfleoedd gorau ar gyfer prosiectau ynni carbon isel, gan gyflymu a galluogi eu datblygiad, ond mae angen mwy. Rwy\u2019n falch heddiw o nodi sut yr ydym yn ymateb i\u2019r her o ddarparu sector p\u0175er carbon isel i Gymru, darparu swyddi gwyrdd a sicrhau bod gennym economi gynaliadwy.<\/p>\n<p>Byddaf yn ariannu dau gynllun peilot cynllunio ynni ardal leol, gan weithio gyda\u00a0<strong>Chyngor Conwy<\/strong>\u00a0a\u00a0<strong>Chyngor Casnewydd<\/strong>\u00a0i ddatblygu cynlluniau ynni ardal leol.\u00a0 Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith rhagorol i ddatblygu\u2019r strategaethau ynni rhanbarthol. Bydd yn rhoi cynlluniau i\u2019r awdurdodau hyn gyda chamau ymarferol y gellir eu cyflawni, yn ogystal \u00e2 rhoi gwersi inni eu defnyddio ledled gweddill ein gwlad. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen gadarn inni ar gyfer cynllunio a darparu\u2019r seilwaith grid y mae ei angen ar gyfer y tymor hir, yn hytrach nag uwchraddio mewn ffordd dameidiog, a fydd yn ychwanegu costau diangen. Mae trosglwyddiad cyfiawn yn ei gwneud yn ofynnol i\u2019r grid gael ei ddylunio i ddiwallu anghenion lleoedd yn hytrach na datblygiadau unigol.<\/p>\n<p>Yr ydym yn nodi ymhle y gallwn harneisio adnoddau naturiol Cymru i sicrhau\u2019r trosglwyddiad carbon isel.<\/p>\n<p>Mae\u2019n moroedd yn cynnig potensial mawr ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy, gyda\u2019r arbedion carbon cysylltiedig, y cyfleoedd cyflogaeth a\u2019r gadwyn gyflenwi. Yr ydym wedi sefydlu parthau arddangos morol yn Ynys M\u00f4n ac yn Sir Benfro. O dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, byddwn yn creu safle penodol yn Noc Penfro i ddatblygu dyfeisiau ynni\u2019r llanw a\u2019r tonnau a chanolfan ragoriaeth peirianneg ynni morol. Mae Teyrnas Ynni Aberdaugleddau wedi ennill cyllid ychwanegol gan Innovate UK, a fydd yn helpu i ddatblygu ateb ynni integredig ar gyfer gwres, p\u0175er a thrafnidiaeth.<\/p>\n<p>Wrth edrych ymlaen, rydym yn mynd ati\u2019n rhagweithiol i edrych ar gyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer technolegau gwynt ar y m\u00f4r sy\u2019n arnofio, a all weithredu mewn dyfroedd dyfnach. Byddwn yn rhannu canlyniad yr archwiliad hwn yn nes ymlaen y flwyddyn nesaf. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, hefyd yn ystyried Her Ynni Morol. Bydd yn gwneud Datganiad i\u2019r Senedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r sector cyhoeddus yn cymryd camau newydd i ddangos arweiniad wrth ddatgarboneiddio\u2019r sector ynni.<\/p>\n<p>Wedi\u2019i gefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac \u00a38.6m o gyllid Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd yn bwrw ymlaen \u00e2 rhwydwaith gwres mwyaf Cymru. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer y tymor hir a fydd yn lleihau allyriadau yng nghanol Caerdydd drwy ddefnyddio gwres carbon isel o\u2019r gwaith ynni o wastraff ym Mae Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae gennym hefyd uchelgais i wneud mwy gydag yst\u00e2d Llywodraeth Cymru. Gallaf gadarnhau heddiw ein bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio ffyrdd o gyflawni ein huchelgais ehangach i gael mwy o berchnogaeth gyhoeddus dros gynhyrchu ynni a gwneud y defnydd gorau posibl o dir cyhoeddus. Disgwyliaf allu dweud mwy am y datblygiad hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Yr ydym yn cefnogi nifer sylweddol o fentrau carbon isel arloesol ledled Cymru. Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ei fwriad i greu cwmni datblygu safle i helpu i ddatgloi potensial safle\u2019r hen orsaf b\u0175er niwclear yn Nhrawsfynydd. Bydd Cwmni Egino yn anelu at gyflwyno prosiectau newydd i\u2019r safle \u2013 dim ond dau o\u2019r prosiectau sy\u2019n cael eu cynnig yw adweithyddion modiwlaidd bach ac adweithydd ymchwil meddygol.<\/p>\n<p>Yn olaf, rydym yn parhau i wthio ffiniau technoleg, gan gefnogi\u2019r sylfaen ymchwil yng Nghymru i feithrin gallu a dangos syniadau newydd sy\u2019n hanfodol i\u2019r trawsnewid sydd ei angen arnom.<\/p>\n<p>Mae Hydrogen yn debygol o chwarae rhan bwysig o ran cyflawni ein huchelgeisiau sero net, yn enwedig oherwydd ei hyblygrwydd ar draws gwres, p\u0175er, trafnidiaeth a storio. Rydym wrthi\u2019n edrych ar gyfleoedd presennol a phosibl ar gyfer hydrogen yng Nghymru ac rydym yn datblygu llwybr hydrogen fel rhan o\u2019n hail Gynllun Cyflenwi Carbon Isel. Bydd cydweithio \u00e2 Llywodraeth y DU, Gr\u0175p Cyfeirio Hydrogen allanol Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn allweddol i gyflawni uchelgeisiau yn y maes hwn ac yn helpu i ddenu cyllid preifat a llywodraeth ganolog.<\/p>\n<p>Yr ydym hefyd wedi sicrhau dros \u00a347m o gymorth gan y sector cyhoeddus a\u2019r sector preifat tuag at atebion system gyfan dan ein rhaglen Byw yn Glyfar. Mae hyn yn profi ffyrdd newydd o reoli p\u0175er, gwres, trafnidiaeth a thechnolegau clyfar ar raddfa fach, i weld a allant weithio ledled Cymru. Rydym hefyd yn cyflwyno syniadau addawol drwy Smart Cymru gan fusnesau, er enghraifft, cyllid i ddatblygu cwch trydan heb griw ar gyfer gwell gweithredu a chynnal a chadw ar gyfer ffermydd gwynt ar y m\u00f4r.<\/p>\n<p>Rydym wedi cyflawni llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf heriau pandemig ac ymadael \u00e2\u2019r UE heb gytundeb.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal 38 o ddigwyddiadau ar-lein gyda 1,600 o gyfranogwyr o Gymru a thu hwnt, i drafod y ffordd ymlaen yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Byddwn yn ymgysylltu ymhellach cyn COP 26 y flwyddyn nesaf, gan weithio gyda\u2019r amrywiaeth eang o bobl sy\u2019n ymwneud \u00e2 gweithredu ar yr hinsawdd a gofyn iddynt ddod ymlaen gyda\u2019u hymrwymiadau eu hunain. Bydd y camau gweithredu hyn yn rhan o Gynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf Cymru Gyfan. Mae\u2019r cyflawniadau a\u2019r uchelgeisiau yr wyf yn eu gosod heddiw yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol cynaliadwy yng Nghymru.<\/p>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":4,"featured_media":2300,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"image","meta":{"_acf_changed":false,"pmpro_default_level":"","footnotes":""},"categories":[9,12],"tags":[],"class_list":["post-2222","post","type-post","status-publish","format-image","has-post-thumbnail","hentry","category-media","category-senedd","post_format-post-format-image","pmpro-has-access"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Welsh Government Energy Statement - HyCymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/welsh-government-energy-statement\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Welsh Government Energy Statement - HyCymru\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/welsh-government-energy-statement\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"HyCymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-12-15T15:15:43+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-02-19T15:46:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/welsh-government-energy-statement.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"450\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"gweinyddwr\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@HyCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@HyCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"gweinyddwr\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"15 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"gweinyddwr\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/eb11271bf48ca5a743dedcf9d79a4975\"},\"headline\":\"Welsh Government Energy Statement\",\"datePublished\":\"2020-12-15T15:15:43+00:00\",\"dateModified\":\"2022-02-19T15:46:50+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/\"},\"wordCount\":3260,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/welsh-government-energy-statement.jpg\",\"articleSection\":[\"Media\",\"Senedd\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/\",\"name\":\"Welsh Government Energy Statement - HyCymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/welsh-government-energy-statement.jpg\",\"datePublished\":\"2020-12-15T15:15:43+00:00\",\"dateModified\":\"2022-02-19T15:46:50+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/welsh-government-energy-statement.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/02\\\/welsh-government-energy-statement.jpg\",\"width\":800,\"height\":450,\"caption\":\"Welsh Government Energy Statement\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/welsh-government-energy-statement\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Welsh Government Energy Statement\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/\",\"name\":\"HyCymru\",\"description\":\"Wales Hydrogen Trade Association\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#organization\",\"name\":\"HyCymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/10\\\/hycymru-logo-cmyk-1920x1080.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/10\\\/hycymru-logo-cmyk-1920x1080.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1810,\"caption\":\"HyCymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/HyCymru\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/in\\\/hycymru-wales-2751901a3\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/eb11271bf48ca5a743dedcf9d79a4975\",\"name\":\"gweinyddwr\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"\\\/\\\/www.gravatar.com\\\/avatar\\\/9e721783f6f05273e0e8f760ee3e3332?s=96&#038;r=g&#038;d=mm\",\"url\":\"\\\/\\\/www.gravatar.com\\\/avatar\\\/9e721783f6f05273e0e8f760ee3e3332?s=96&#038;r=g&#038;d=mm\",\"contentUrl\":\"\\\/\\\/www.gravatar.com\\\/avatar\\\/9e721783f6f05273e0e8f760ee3e3332?s=96&#038;r=g&#038;d=mm\",\"caption\":\"gweinyddwr\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/hydrogenh2.cymru\\\/cy\\\/author\\\/gweinyddwr\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Welsh Government Energy Statement - HyCymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/welsh-government-energy-statement\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Welsh Government Energy Statement - HyCymru","og_url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/welsh-government-energy-statement\/","og_site_name":"HyCymru","article_published_time":"2020-12-15T15:15:43+00:00","article_modified_time":"2022-02-19T15:46:50+00:00","og_image":[{"width":800,"height":450,"url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/welsh-government-energy-statement.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"gweinyddwr","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@HyCymru","twitter_site":"@HyCymru","twitter_misc":{"Written by":"gweinyddwr","Est. reading time":"15 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/"},"author":{"name":"gweinyddwr","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#\/schema\/person\/eb11271bf48ca5a743dedcf9d79a4975"},"headline":"Welsh Government Energy Statement","datePublished":"2020-12-15T15:15:43+00:00","dateModified":"2022-02-19T15:46:50+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/"},"wordCount":3260,"publisher":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/welsh-government-energy-statement.jpg","articleSection":["Media","Senedd"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/","url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/","name":"Welsh Government Energy Statement - HyCymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/welsh-government-energy-statement.jpg","datePublished":"2020-12-15T15:15:43+00:00","dateModified":"2022-02-19T15:46:50+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#primaryimage","url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/welsh-government-energy-statement.jpg","contentUrl":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/02\/welsh-government-energy-statement.jpg","width":800,"height":450,"caption":"Welsh Government Energy Statement"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/welsh-government-energy-statement\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Welsh Government Energy Statement"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#website","url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/","name":"HyCymru","description":"Wales Hydrogen Trade Association","publisher":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#organization","name":"HyCymru","url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/hycymru-logo-cmyk-1920x1080.jpg","contentUrl":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/hycymru-logo-cmyk-1920x1080.jpg","width":2560,"height":1810,"caption":"HyCymru"},"image":{"@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/HyCymru","https:\/\/www.linkedin.com\/in\/hycymru-wales-2751901a3\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/#\/schema\/person\/eb11271bf48ca5a743dedcf9d79a4975","name":"gweinyddwr","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"\/\/www.gravatar.com\/avatar\/9e721783f6f05273e0e8f760ee3e3332?s=96&#038;r=g&#038;d=mm","url":"\/\/www.gravatar.com\/avatar\/9e721783f6f05273e0e8f760ee3e3332?s=96&#038;r=g&#038;d=mm","contentUrl":"\/\/www.gravatar.com\/avatar\/9e721783f6f05273e0e8f760ee3e3332?s=96&#038;r=g&#038;d=mm","caption":"gweinyddwr"},"url":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/author\/gweinyddwr\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2222"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2222\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2300"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/hydrogenh2.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}